Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr (YJB) yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol. Mae gennym o aelodau ar ein bwrdd sy’n cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr (YJB) yn goruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid. Rydym yn gweithio i atal plant a phobl ifanc dan 18 oed rhag troseddu ac aildroseddu, a sicrhau bod y mannau hynny lle cânt eu cadw ar ôl troseddu yn saff, yn ddiogel, ac yn mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd eu hymddygiad troseddol.
Cliciwch ar y ddolen gyswllt er mwyn gweld beth yr ydym yn ei wneud, a chael gwybodaeth am holl feysydd gwaith yr YJB.
Mae holl wybodaeth gorfforaethol yr YJB ar gael hefyd, gan gynnwys ein cynllun corfforaethol, ein hadolygiad blynyddol a’n hystadegau, yn ogystal â gwybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.